skip to main content

St Tysul's Church

Gwasanaeth Priodas

Os ydych eisiau priodi yn un o’n eglwysi, yn gyntaf, llongyfarchiadau!  Mae gwasanaeth Priodas yr Eglwys yng Nghymru yn dweud mae ‘rhodd oddi wrth Dduw yw priodas. 
Trwyddi gall gŵr a gwraig gyd-dyfu yn eu hadnabyddiaeth o Dduw, eu cariad ato a’u gwasanaeth iddo.’
 
Mae Iesu felly’n gosod yr esiampl orau o gariad diamod, hunanaberthol – model y gall gŵr a gwraig geisio ei dilyn yn y ffordd maen nhw’n caru ei gilydd, gyda’r naill yn rhoi
anghenion y llall yn gyntaf.  Mae cyfnewid addunedau’n ganolog i’r seremoni briodasol, lle mae pâr yn gwneud datganiad cyhoeddus o’u hymrwymiad i garu ei gilydd am weddill eu hoes, doed a ddel.
 
Er mwyn priodi mewn eglwys arbennig, mae’r gyfraith yn mynnu bod o leiaf un o’r cwpl:
    ▪       yn byw yn y plwyf lle cynhelir y briodas, neu
    ▪       yn addoli yn rheolaidd yn y plwyf a gyda’ch enw ar rol etholwyr yr eglwys, neu
    ▪       gyda ‘chysylltiad cymwysedig’.
            ‘Cysylltiad cymwysedig’ yw cafodd un ohonoch ei fedyddio neu conffyrimio yn y plwyf; bod un ohonoch, neu’ch rhieni wedi byw am o leiaf chwech mis yn y plwyf; bod un ohonoch neu’ch rhieni wedi mynychu gwasanaethau yn y plwyf yn gyson am o leiaf 6 mis; neu bod eich rhieni neu eu rhieni wedi’u briodi yn y plwyf.
 
I siarad yn fwy am eich priodas, cysylltwch â’n Ficer, Parch Gareth Reid ar 01559 363874 neu garethmreid@googlemail.com
 
Wefan buddiol - http://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/bywyd/priodas/

 

Hysbysiadau a Newyddion

Darllenwch ein hysbysiadau yma.

Newyddion Ysgol Sul

Gwybodaeth am yr Ysgol Sul.
Darllenwch mwy...

Picture of a shield with writing - entitled

Apêl y Tŵr

Prosiect i drawsffurfio cefn adeilad yr eglwys i wella ein defnydd o’r lle - ar gyfer addoliad ac i’r gymuned o’n hamgylch. Darllen mwy...

{