Ysgol Sul
Rydym yn cwrdd ar bore Sul yn ystod y gwasanaeth 11 o’r gloch. Mae’r plant yn cwrdd yn yr eglwys ar dechrau’r gwasanaeth, ac ar ôl yr emyn gyntaf rydym yn mynd i neuadd yr eglwys, ac mae ein amser gyda’n gilydd yn dechrau. Mae yna darlleniad o’r Beibl, gweithgareddau, creifftiau, gemau a sgwrsio. Ail ymunwn â theulu’r eglwys ar gyfer y Cymun ac yna ddangos i’r gynulleidfa beth dyn ni wedi wneud.
Felly, mae’n bosib fydd yna llanast, weithiau yn swnllyd, ac hefyd yn ddwl pob hyn a hyn, ond ni’n dysgu am pa mor arbennig yw Duw, ac am ei gariad taug atom! Ac, efallai bod siocled yn rhan o’n amser…
Arfogaeth Duw - Yn denyddio Effesiaid 6:16 yn siarad am ‘tarian ffydd’ ac adnodau yn siarad am gair Duw fel tarian.
Gobaith - Cafwyd y llun yma ei greu gan plant y dydd Sul ar ol i'r twr cael ei bwrw gan mellt (Hydref 2014). Roeddent eisiau atogffa'r gynulleidfa bod Duw yn dod a gobaith ym mhob sefyllfa - Salm y dydd ar y dydd Sul yna oedd Salm 23.
Luc 12:13-21 - Mae'r 'Dameg yr Ynfytyn Cyfoethog' yn son am casglu trysorau yn y nef, a na fydd trysorau ar y ddaear yn para - dyma rhai o'n trysorau ni.
Luc 12:22-34 - Dyma'r pethau y mae Duw yn ei trysoru ac yn gweld o werth.
Dwylo gweddi - Mae'r plant yn ysgrifennu eu gweddiau ac yn eu rhoi yn y dwylo, ac yna yn eu gosod ar yr allor pan maent yn dod yn ol i mewn i'r gwasanaeth.
Dyma'r gweddi Ysgol Sul - rydym yn dweud hyn gyda'r eglwys cyn dod allan am Ysgol Sul.
Hysbysiadau a Newyddion
Darllenwch ein hysbysiadau yma.
Apêl y Tŵr
Prosiect i drawsffurfio cefn adeilad yr eglwys i wella ein defnydd o’r lle - ar gyfer addoliad ac i’r gymuned o’n hamgylch. Darllen mwy...