Bedyddio
Mae gwasanaeth bedyddio yn amser dathliad mawr. Mi rydych chi fel teulu yn rhoi diolch am rhodd plentyn, ac i ni fel eglwys, mi rydym yn dathlu siawns i croesawi aelod newydd o deulu Grist.
O ddechreuadau’r Eglwys Gristnogol, Bedydd fu’r ffordd i bobl ddod yn Gristnogion ac yn aelodau o’r Eglwys. Mae’r Efengylau’n (Mathew 3:13-17; Marc 1:9-11; Luc 3:21-23) dweud wrthym fod Iesu ei hun wedi cael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr yn afon yr Iorddonen a bod yr Iesu wedi dysgu i’w ddisgyblion fynd allan i’r byd a bedyddio. Mae Iesu’n dysgu ei bobl bod yn rhaid i bawb sydd am gael mynediad i’w deyrnas gael eu geni drachefn o ddŵr ac o’r Ysbryd. Bedydd yw arwydd a sêl yr enedigaeth newydd hon.
Yn ystod pob cam o ddod yn Gristion, mae’n bwysig bod pawb dan sylw’n paratoi’n gywir. Anogir rhieni a rhieni bedydd plant ifanc i ddeall yn llawn eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau i ddarllen y Beibl, gweddïo ac addoli’n rheolaidd, fel esiampl i’w plentyn.
Hefyd, byddai rhai am y cyfle i roi diolch ar enedigaeth eu plentyn a byddai’n well ganddynt adael i’r plentyn ddewis a yw am gael ei fedyddio a’i gonffyrmio yn nes ymlaen, pan fydd yn oedolyn.
Yn Llandysul, mi rydym yn annog i fedydd cael eu cynnal yn ystod ein prif gwasanaeth ar Dydd Sul am 11yb.
Cysylltwch â’n Ficer, Parch Gareth Reid am fwy o wybodaeth - 01559 363874 neu garethmreid@googlemail.com
Hysbysiadau a Newyddion
Darllenwch ein hysbysiadau yma.
Apêl y Tŵr
Prosiect i drawsffurfio cefn adeilad yr eglwys i wella ein defnydd o’r lle - ar gyfer addoliad ac i’r gymuned o’n hamgylch. Darllen mwy...