skip to main content

St Tysul's Church

Newyddion

Nadolig 2024

Dyma gwasanaethau dros Nadolig yn eglwys St Tysul
 

Darllen mwy

Wythnos Fawr 2024

Gweler y llun ar gyfer ein gwasanaethau yr Wythnos Fawr 2024

Darllen mwy

Gwasanaethau Nadolig 2023

Gwybodaeth am ein gwasanaethau dros tymor yr Adfent a'r Nadolig

Darllen mwy

Gwyl Coed Nadolig 2023

Ein Gwyl Coed Nadolig (2023) - plis ymunwch â ni!

Darllen mwy

Gwyl Coed Nadolig 2022

Ymunwch gyda ni am agoriad ein Gwyl Coed Nadolig - Dydd Sadwrn Rhagfyr 10fed am 2yh yn eglwys St Tysul

Darllen mwy

Bore Coffi Wythnosol

Pob bore Iau rhwng 9:30 a 11:30 fyddwn yn cwrdd yn Neuadd yr Eglwys (yn adeilad y Llyfrgell) am te, coffi, bisgedi a sgwrs.  Croeso i bawb dod unrhywbryd, a mae'n rhad ac am ddim.
 

Darllen mwy

Darllen mwy

Gwyl Coed Nadolig - oriau agor

Mae ein Gwyl Coed Nadolig yn agor Dydd Sadwrn Rhagfyr 18ed am 2yh, a mae croeso i chi ddod i weld y coed yn yr amser cyn Nadolig.  Dyma'r oriau agor:

Dydd Sadwrn Rhagfyr 18ed - 2yh-5:30yh
Dydd Llun Rhagfyr 20ed - 3:30yh-5:30yh
Dydd Mawrth Rhagfyr 21ain - 3:30yh-5:30yh
Dydd Mercher Rhagfyr 22ain - 3:30yh-5:30yh
Dydd Iau Rhagfyr 23ain - 3:30yh-5:30yh

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch a ni ar 01559 363874

Darllen mwy

Nadolig 2021

Digwyddiadau'r Nadolig:
Rhagfyr 18, 2yh - Agoriad Gwyl Coed Nadolig

Rhagfyr 19, 5yh - Carolau Cytun trwy Llandysul (cwrdd tu allan St Tysul am gorymdaith trwy Llandysul yn canu!)

Rhagfyr 24, 4yh - Gwasnaeth y Preseb

11yh - Cymun Gyntaf y Nadolig

Rhagyfr 25, 10yb - Cymun Bendigaid

Mi fydd y digwyddiadau/gwasanaethau yma o dan canllawiau Covid Llywodraeth Cymru - cysylltwch ni ar 01559 363874 am fwy o wybodaeth

Darllen mwy

Grwp Adfent - Lectio Divina

Yn nhymor yr Adfent y flwyddyn yma fyddwn ar taith trwy'r darlleniadau'r Efengyl ar gyfer pob dydd Sul yn defnyddio Lectio Divina - ffordd myfrdodol o wrando ar Air Duw.  Fyddwn yn cwrdd pob nos Iau am 8yh dros Zoom a hefyd pob prynhawn dydd Gwener am 1yp yn neuadd eglwys Llandysul.

Os hoffech ymuno gyda ni ar gyfer y cyfarfod corfforol, neu eisiau mwy o wybodaeth ar yr ymarfer Lectio Divina a'r darlleniadau fyddwn yn defnyddio, ebostiwch garethmreid@googlemail.com.

Mae'r linc ar gyfer y cyfarfod Zoom isod...

Darllen mwy

Cymun y Pasg - AWL Dyffryn Teifi

Darllen mwy

Garawys 2021 - digwyddiadau a gwasanaethau

Fel llawer o'r Garawys flwyddyn diwethaf, a'r 12 mis diwethaf, fyddwn yn dathlu'r tymor sanctaidd yma yn wahanol y flwyddyn yma. Hoffwn, fel eglwysi sy'n rhan o Ardal Weinidogaeth Leol Dyffryn Teifi, eich wahodd i'r digwyddiadau/gwasanaethau canlynol:

Pob nos Fawrth (dechrau Chwefror 23):
7:00yh Cwmplin (Gweddi Nos)

Pob nos Iau (dechrau Chwefror 18):
8:00yh Grwp Garawys "Crying in the Silicon Wilderness" - amser myfrdod ar lluniau a darlleniadau trwy tymor y Garawys

ebostiwch garethmreid@googlemail...

Darllen mwy

Cymun Gyntaf y Nadolig 2020

Darllen mwy

Gwasanaeth Coffa Carolau 2020 (digidol)

Darllen mwy

Taith digidol Gwyl Coed Nadolig 2020

Darllen mwy

Darllen mwy

Nadolig 2020

Mi fydd Nadolig 2020 yn wahanol oherwydd cyfyngiadau Covid-19 - mi fydd wybodaeth yn cael ei rhoi fan hyn yn fuan iawn ar beth fydd yn cael ei cynnal yn St Tysul, a beth bydd ar gael ar-lein

Darllen mwy

Gwasanaeth Coffa Carolau

Dros y flynyddoedd diwethaf rydym wedi cynnal gwasanaeth Coffa Carolau i gofio ein anywliaid sydd wedi marw, a dal i ddathlu y gobaith sydd gennym yn neges y Nadolig.  Mae'r Nadolig wastad yn anodd i'r rhai sydd wed colli teulu a ffrindiau, ac rydym oll yn fwy wybodol o hyn flwyddyn yma.
Mi fydd ein gwasanaeth ar-lein flwyddyn yma (manylion i'w ddilyn), a hoffem wahodd pobl i rannu enwau eu anwyliaid yr hoffech ni i gofio yn ein gwasanaeth.  Os oes teulu a ffrindiau hoffech i ni gofio yn ein gwasaneth Coffa Carolu, mi allwch ebostio garethmreid@googlemail...

Darllen mwy

Canllawiau Covid-19 ar gyfer ein gwasanaethau

Ar ol canllawiau newydd o Lywodraeth Cymru mae pawb sy'n mynychu gwasanaethau mewn eglwys yn gorfod gorchudd wyneb.
Mae ein gwasanaethau am 11yb Dydd Sul a 10:30yb Dydd Mercher - ffoniwch 01559 363874 neu ebostiwch garethmreid@googlemail.con i roi wybod eich bod yn dod i'r gwasanaeth i wneud siwr bod lle.

Am fwy o wybodaeth ar canllawiau yr Eglwys yng Nghymru cliciwch yma
 

Darllen mwy

Cyfrifon eglwys St Tysul 2019

Dyma cyfrifon eglwys St Tysul ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 31ain 2019.  Os oes unrhyw cwestiynnau, plis cysylltwch a'r Parch Gareth Reid trwy y manylion cyswllt ar tudalen flaen y wefan yma.
 

Darllen mwy

Cymanfa'r Cynheaef - Cyngerdd Bois y Gilfach

Cymanfa'r Cynhaeaf gyda Bois y Gilfach

Mi fydd cor Bois y Gilfach yn dod i eglwys St Tysul ar gyfer noson o ganu - eitemau gan y Bois, ac emynnau cynulleidfaol hefyd.  Am eich tocyn - sydd ond yn £10 - mi gewch chi'r wledd o gerddoriaeth a canu ac hefyd lluniaeth yn yr egwyl hanner amser.  Mi fydd yr elw yn cael ei rannu rhwng elusen y Bois a gronfa'r organ St Tysul.
Mae tocynnau ar gael yn Siop Ffab, Llandysul neu ar 01559 363874

Darllen mwy

Canu gyda Sandie

Ers Mis medi diwethaf mae'r siawns i ddod a chanu yn neuadd yr eglwys (yn yr un adeilad a'r Llyfrgell, yn agos i'r parc ceir cyngor) pob nos Lun o 7yh.  Mae yn noson llawn hwyl, a does dim angen unrhyw profiad neu hyder hyd yn oed!
 

Darllen mwy

Cyngerdd Organ Ebrill 6ed 2019

I ddathlu terfyn y gwaith ar ein organ bîb, a'r 120ed mlwyddaint o'r organ yn cael ei adeiladu, rydym yn falch iawn i gyhoeddi Cyngerdd Organ gyda Huw Tregelles Williams OBE.
O 7:30yh ar nos Sadwrn Ebrill 6ed mi fydd siawns gennych i glywed yr offeryn anhygoel yma yn cael ei chwarae.
Mae tocynnau yn £15 (seddau y cor yn y gangell - tu ol ac yn wynebu'r organydd), £10 (canol corff yr eglwys) a £7 (eiliau ochr a golygfa cyfyngedig) a mi allwch prynu rhain trwy ffonio'r Ficerdy ar 01559 363874

Darllen mwy

Gwasanaethau Nadolig yn Eglwys St Tysul 2018

Fyddwn yn hoff iawn o'ch weld dros tymor y Nadolig yn St Tysul.  I wneud hwn yn hawdd maw gennym nifer o wasanaethau yn digwydd i ddathlu'r amser hyfryd yma - 

Dydd Sul Rahgfyr 23ain - Gwasanaeth Coffa Carolau 3yh - 
Mae'r gwasanaeth newydd yma er mwyn cofio ein annwylyd colledig.  Mae'r Nadolig yn amser anodd pan rydym wedi colli teulu neu ffrindiau, ond mae hefyd yn amser i gofio yr obaith wnaeth Duw rhoi i'r byd.  Yn y gwasanaeth yma rydym yn cydnabod ein colled, ac yn cofio gobaith y Nadolig gyda carolau...

Darllen mwy

Groto Sion Corn yn Neuadd yr Eglwys

Mae'r Nadolig yn dod yn gynnar i Llandysul.  Mi allwn cadarnhau bod Sion Corn yn dod i Landysul i cwrdd a teuluoedd ar dydd Gwener 1af Rhagfyr ar gyfer Ffair Nadolig Llandysul.  Dewch i cwrdd ag e yn Neuadd yr Eglwys (yn adeilad y Llyfrgell) rhwng 4:30yh-6:30yh.
 

Darllen mwy

Codi arian i Twr St Tysul try 'Crowdfunding

Yn St Tysul, rydym angen help gyda twr ein eglwys.  Mae ein twr hanesyddol angen ei atgyweirio, a mi fydd pob help yn cael eu dderbyn llawn diolch.  I'n help ni codi arian, wrth ochr cais grant i'r 'Heritage Lottery Fund', rydym wedi lawnsio tudalen 'crowdfunding' - cliciwch yma.

Gofynnwn i chi ystyried os medrwch chi ein helpu i cadw ac amddiffyn yr engrhaifft anhygoel yma o crefftwaith Gymraeg, mewn lle llawn hanes - mi oedd Owain Glyndwr ei hyn yn 'Arglwydd Llandysul' ac mi fydd ef wedi nabod y twr yma, o gwmpas 1400OC - plis helpwch ni i sicrhau bod cenedlaethau y dyfodol yn nabod hwn hefyd...

Darllen mwy

Tŵr hanesyddol eglwys St Tysul

Rydym ni yn eglwys St Tysul yn edrych at sicrhau dyfodol ein adeilad hanesyddol trwy ceisio am grant o'r 'Heritage Lottery Fund' (HLF).  Mi fydd y grant yma yn ein helpu ni i wneud gwaith bwysig, ac ymchwil, ar y tŵr, a helpu ni i cario edrych ymlaen fel eglwys, tra yn dal at ein hunaniaeth, ac ein lle yn y gymuned o'n gwmpas.
I helpu ni, a'r rhai gyda cyswllt â St Tysul, rydym wedi creu tudalen newydd ar Facebook ar gyfer y tŵr.  Allwch darganfod ffeithiau am yr hanes, y gorffennol, y bresennol, ac ein gobeithion am y dyfodol - plis edrychwch ar y tudalen trwy clicio fan hyn
 

Darllen mwy

Taflen Hysbysiadau St Tysul Dydd Sul Ionawr 8ed

Taflen Hysbysiadau St Tysul Dydd Sul Ionawr 8ed

Darllen mwy

Gwyl Calan Hen 2016

Calan Hen yw'r gwyl flynyddol ar dechrau'r flwyddyn newydd pan mae eglwysi yn ardal Llandysul yn dod i eglwys St Tysul.  Dechreuodd y traddodiad yn 1833 ac mae wedi cael ei gynnal pob blwyddyn ers hynny.  Mae'r eglwysi, o fewn hanner awr, yn cyd adrodd darn o'r Ysgrythur, yn ateb cwestiynnau gan clerig sy'n ymweld am y wyl, ac yna canu emyn neu anthem.  Mae Ysgol Sul yn nifer o'r eglwysi, ac mae'r plant hefyd yn cyd adrodd ac yn ateb cwestiynnau.

Mae'r wyl elenni ar Dydd Sadwrn Ionawr 14eg ac yn dechrau am 10yb gyda Boreol Weddi, ac yna am 10:30yb mae'r eglwys gyntaf yn dechrau...

Darllen mwy

Arddangosfa Ysgol Sul yn St Tysul

Sialens
 

Dros y gwanwyn hwyr 2016, derbyniwyd sialens gan Ysgol Sul St Tysul.  Ar ôl rhodd o hen gamerau digidol, a gyda’r themau ‘Gogoniant’ , wnaeth y pobl ifanc o gwmpas yr eglwys, tu fewn a tu allan, a tynnu lluniau o pethau wnaeth son am y thema.

 

Ar ol dewis lluniau y welwch fan hyn, allan o ganoedd i gyd, dewisodd y blant adnodau o’r Beibl i fynd gyda pob llun.  Dros lawer o drafod/dadlu/bwyta bisgedi siocled i helpu’r meddwl, rydym yn cyflwyno’r prosiect i chi...

Darllen mwy

Llan Llanast

Llan Llanast!

Neuadd Eglwys Llandysul
Dydd Sul 11 Medi, 4yp
Yn cynnwys swper o basta i bawb!
Yn galw teuluodd!
Peidiwch a ddiflasu ar pynhawn Dydd Sul.

Darllen mwy

Hysbysiadau a Newyddion

Darllenwch ein hysbysiadau yma.

Newyddion Ysgol Sul

Gwybodaeth am yr Ysgol Sul.
Darllenwch mwy...

Picture of a shield with writing - entitled

Apêl y Tŵr

Prosiect i drawsffurfio cefn adeilad yr eglwys i wella ein defnydd o’r lle - ar gyfer addoliad ac i’r gymuned o’n hamgylch. Darllen mwy...

{